Rôl Glynllifon yn y gymuned
Mae Parc Glynllifon wedi bod yn agos iawn at galon pobl yn y gymuned leol ers blynyddoedd. Gyda’r coleg, y plas a’r parc ei hun, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cyfrannu gwerth ac yn cynnig cyfleoedd i’r gymuned leol ffynnu.
Ymgysylltu â'r gymuned
Mae ein cymuned hefyd yn cynnwys y rheini sydd efallai ddim yn dod i’r parc bob dydd. Mae’n bwysig i ni bod cymaint o bobl â phosib yn mwynhau’r parc a’r cyfleusterau sydd gennym, ac rydym ni am roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned hefyd.
Gall ffotograffwyr amatur neu gwmnïau ffilm mawr, fel ei gilydd, wneud y mwyaf o’r golygfeydd trawiadol a’r adeiladau hanesyddol, p’un a ydynt yn ymweld am ddiwrnod neu wedi trefnu caniatâd swyddogol i ffilmio.
Gall trigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau’r siopau crefft ar y safle yn ogystal â’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yma, fel y ffair Nadolig boblogaidd.
Gall busnesau archebu ystafelloedd cyfarfod neu ddefnyddio’r parc ar gyfer diwrnod allan fel tîm. Cyfle heb ei ail i gamu allan o’r swyddfa gan ailgysylltu â natur a’i gilydd.
Mae croeso i fusnesau lleol ddod yn denantiaid hefyd gan fanteisio ar ein swyddfeydd a’n stiwdios cerrig hyfryd. Mae’n lle heddychlon i weithio ar eich crefft ac yn ddelfrydol i gwrdd â darpar gleientiaid wrth i bobl grwydro’r parc.
Llwybrau llesiant
Prosiect yw hwn sy’n cael ei redeg gan wasanaeth anabledd dysgu Cyngor Gwynedd i feithrin potensial oedolion gydag anableddau dysgu drwy lunio llwybrau llesiant iddynt. Rydym yn falch iawn bod gennym ganolfan yma yn y parc lle gall unigolion ag anableddau dysgu gael cyfleoedd dydd, cymryd rhan mewn grwpiau a digwyddiadau cymdeithasol, a dysgu sgiliau newydd sydd hefyd ar gael i’r gymuned ehangach.
Mae’r tîm ym Melin Glanrafon yn mwynhau ystod eang o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys gwaith coed yn y gweithdy, celf a chrefft, gwaith llaw, garddio a llawer iawn mwy. Mae’n bosib y gwelwch chi eu gwaith wrth gerdded o amgylch y parc, er enghraifft y meinciau pren.
Unedau crefft
Mae gennym sawl uned grefft lle gall busnesau sy’n denantiaid ganolbwyntio ar eu gwaith mewn lleoliad ysbrydoledig. Mae’r unedau hefyd ar agor i’r cyhoedd i brynu cofroddion o’u gwyliau neu anrheg arbennig i berson arbennig.
Hoffech chi logi uned?
Dysgu mwy am unedau i’w llogi yng Nglynllifon.