Hafan/Y parc/Y gerddi

Y gerddi

Gerddi Gradd I, llwybrau di-ri a choedydd coch enfawr.

Ymgolli ym myd natur

Mae’r gerddi wedi cael eu hadfer a’u cynnal i ddatblygu’n naturiol. Dyma un o’r lleoedd gorau yng Ngogledd Cymru i ymgolli ym myd natur a rhyfeddu at y gwahanol rywogaethau sy’n ffynnu mewn amgylchedd naturiol. O goedwigoedd bryniog i goetiroedd ar hyd glannau’r nant a llecynnau gwyrdd agored, mae rhywbeth yma i bawb.

Thomas John Wynn, ail Arglwydd Newborough, ddatblygodd y coetiroedd yng Nglynllifon, gan blannu coed derw, llarwydd a choed cynhenid eraill. Yn wir, cafodd Wobr Aur gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn 1828 am iddo blannu cymaint o goed (bron i 4 miliwn!).

Oeddech chi'n gwybod?
 
Leaves illustration

Taith o ddarganfod

Wrth grwydro drwy’r gerddi, byddwch chi’n ymgolli’n gyflym mewn hanes a natur. Gallwch weld y coedydd coch enfawr, chwilio am y rhedyn prin, a gwylio’r adar wrth i chi ddilyn y nant.

Wrth i chi fynd yn ddyfnach i’r parc, fe ddewch chi ar draws pontydd hanesyddol, rhaeadrau byrlymus, ffynnon ddŵr fawr, ac anifeiliaid pren wedi’u cerfio. Yn agosach at y fynedfa, gallwch hefyd ddysgu mwy am y felin ddŵr a’r injan stêm a oedd yn arfer pweru’r melinau llifio ar yr ystad.

Bydd gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud i adfer tyrbin y felin, a bydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu pŵer i’r siopau a’r stiwdios ar y safle.

Eisiau mynd yn agosach byth at fyd natur? Gallwch lwytho’r ap Seek i lawr am ddim, a’i ddefnyddio wrth grwydro i ddod ar draws rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion o amgylch y parc.

Archwilio'r parc

Prosiectau

Y gwaith rydym wedi’i gyflawni, a’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud nesaf, fel rhan o’n cynlluniau gwella ac adfer parhaus. Gallwch gefnogi neu ddarllen mwy am ein gwaith drwy roi rhodd i brosiectau penodol sydd o ddiddordeb i chi.

Y wardeiniaid

Mae’r parc yn cael ei gynnal a’i gadw gan ein wardeiniaid ymroddgar llawn amser a’u tîm o wardeiniaid gwirfoddol. Tîm bach sy’n cael effaith enfawr.

O dan arweiniad Nathan, Bryn a Jack, fe welwch chi’r wardeiniaid yn gweithio’n galed wrth i chi grwydro’r parc. Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau iddyn nhw, oherwydd maen nhw’n gwybod popeth sydd i’w wybod am hanes y parc. Byddan nhw hefyd yn eich stopio chi i ddweud helo ac i edrych ar eich tocynnau wrth i chi grwydro.

Archwilio ardal

Glynllifon

Dewiswch eich iaith:

Select your language: