Cynllunio eich ymweliad

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

Hafan/Ymweld â ni/Cynllunio eich ymweliad

Dyma ddechrau'r antur

Mae diwrnod yng Nglynllifon yn antur a hanner. Cofiwch gynllunio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn fawr o’ch amser – p’un a ydych chi’n ymweld fel teulu, yn dod â’r ci gyda chi, neu’n galw heibio am ginio. Gyda llwybrau, cyfleusterau gwych a wardeiniaid cyfeillgar, dewch i ddarganfod pam mae Parc Glynllifon yw un o atyniadau gorau Gogledd Cymru.

Amseroedd agor

TYMOR PRYSUR (1 Ebrill – 30 Medi)

Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 10.00 – 17.00

Dydd Sul: 11.00 – 16.00

TYMOR TAWEL (1 Hydref – 31 Mawrth)
Dydd Iau i ddydd Sadwrn: 10.00 – 17.00
Dydd Sul: 11.00 – 16.00

Lleoliad

Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY

Cyrraedd

  • O fewn 20 munud wrth deithio mewn car o Fangor o gyfeiriad y Gogledd, ac o Borthmadog o gyfeiriad y De.
  • Ewch ar hyd yr A499 nes cyrraedd y fynedfa bwa fawr, a fydd ar eich chwith os ydych chi’n teithio tua’r De.
  • Gyrrwch drwy’r bwa, a dilyn y troad cyntaf i’r chwith, a fydd yn eich arwain i’r man parcio.
  • O’r man parcio gallwch gerdded i’r caffi, i’r siop a thrwy’r gât i’r prif barc.

Mynediad

Dylech archebu’ch tocynnau dydd neu’ch tocynnau tymor ymlaen llaw. Mae disgownt ar gael i blant a phensiynwyr. Ar ôl cyrraedd, gallwch fynd i mewn i’r parc a mwynhau’ch diwrnod. Wrth i chi grwydro, bydd un o’n wardeiniaid yn eich stopio i ddweud helo, ac i edrych ar eich tocynnau.

Parcio

Cewch barcio am ddim fel rhan o bris y tocyn.

Popeth sydd ei angen arnoch chi

Yn y parc mae cyfleusterau toiled a newid babanod ar gael, caffi gyda seddi dan do ac yn yr awyr agored, lle chwarae i’r rhai bach, a siopau bwtîg. Wrth i chi grwydro’r gerddi, fe ddewch chi hefyd ar draws digonedd o feinciau picnic a llecynnau gwair i gael picnic. Dylai ymwelwyr gadw at y llwybrau, a gwisgo esgidiau addas.

Cofiwch stopio yn yr amffitheatr awyr agored i dynnu llun, neu i roi ryw berfformiad bach!

Oeddech chi'n gwybod?
 

Digwyddiadau ar y gweill

Am ddim

Rali Hen Geir

9 Mehefin & 15 Medi

Ymunwch â ni yn ein rali hen geir blynyddol yma yng Nglynllifon. Bydd yna geir, tractors a beiciau modur o bob siâp, lliw a llun! Ac ymddangosiad arbennig gan injan stêm hanesyddol Glynllifon.

Am ddim

YR INJAN STÊM

26, 27 Mai | 21, 28 Gorff | 4, 18 + 26 Awst | 20 Hyd

Un o’r injans stêm hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd dal yn ei safle gwreiddiol, wedi’i hadfer yn grefftus gan Fred Dibnah. Gallwch weld yr injan pan fyddwn ni’n ei thanio.

Cwestiynau Cyffredin am gynllunio trip i Lynllifon

Butterflies illustration

Yn ystod y tymor prysur (1 Ebrill – 30 Medi), dydd Llun i ddydd Sadwrn, rydym ar agor rhwng 10.00 a 17.00, a rhwng 11:00 a 16:00 ar ddydd Sul.

Yn ystod y tymor tawel (1 Hydref – 31 Mawrth), dydd Iau i ddydd Sadwrn, rydym ar agor rhwng 10.00 a 17.00, a rhwng 11:00 a 16:00 ar ddydd Sul.

Ewch i mewn drwy’r prif fwa, ac wedyn troi i’r chwith i gyrraedd y man parcio. Mae’r caffi, y lle chwarae a’r siop o fewn tafliad carreg ar droed. Dyma fan cychwyn y parc.

Prisiau:

Mae tocynnau dydd yn costio £6 i oedolion, £5 i bensiynwyr, a £4 i blant. Dim ond £16 yw tocyn dydd i’r teulu, am 2 oedolyn a 2 blentyn.

Mae tocynnau tymor ar gael hefyd – £30 i oedolion, £20 i blant, a £50 i deuluoedd.

Ewch i mewn drwy’r prif fwa, ac wedyn troi i’r chwith i gyrraedd y man parcio. Mae’r caffi, y lle chwarae a’r siop o fewn tafliad carreg ar droed. Dyma fan cychwyn y parc.

Wrth gwrs! Mae’n lle gwych i fynd â’ch ci am dro. Cadwch y ci ar dennyn, a chofiwch lanhau unrhyw lanast yn syth wrth grwydro.

Butterflies illustration