Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth aruthrol

Hafan/Cefnogi

Mae sawl ffordd o gefnogi Glynllifon

Gallwch gefnogi’r parc drwy roi rhodd ariannol, prynu tocynnau blynyddol, prynu tocynnau rhodd ar gyfer ffrindiau neu deulu, neu drwy wirfoddoli.

Gallwch roi rhodd untro neu’n fisol yn syml ac yn sydyn. Gallwch hefyd ddewis rhoi rhodd i’r parc yn gyffredinol, a gallwn ni neilltuo’r arian ar eich rhan neu gallwch chi ddewis cefnogi prosiect sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Lion illustration

Pam fod angen eich cefnogaeth?

Ein amcan yw dychwelyd y lle i’w lawn ogoniant blaenorol, fel ei fod mor hygyrch â phosib ac er mwyn i bawb ei fwynhau. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn ni fynd i’r afael â mwy o brosiectau ar yr un pryd er mwyn gorffen y gwaith yn gynt.

Dod yn ffrind i'r parc

Manteision aelodaeth flynyddol:

  • Mynediad diderfyn i’r parc drwy gydol y flwyddyn
  • Dim angen archebu ymlaen llaw ar gyfer dyddiadau penodol
  • Mynediad i’r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r cyhoedd
  • Cyfrannu at adfer y gerddi hanesyddol

Tocyn 12 mis

Gwerth gwych am arian. Gallwch ymweld faint a fynnwch o weithiau.

Tocyn rhodd

Anrheg am flwyddyn gyfan. Yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu.

Bats illustration

Gwirfoddoli yng Nglynllifon

Dim ond tîm bychan o wirfoddolwyr llawn amser sydd gennym. Fodd bynnag, mae wardeiniaid gwirfoddol yn cynnig help llaw yn rheolaidd er mwyn mynd i’r afael â phrosiectau mwy ac i gynnal a chadw’r parc i bawb allu ei fwynhau.

Os hoffech chi neu’ch cwmni wirfoddoli eich amser a’ch egni, yna rhowch wybod i ni a gallwn drafod y manylion gyda chi.

Rhowch werth blwyddyn o brofiadau