Archebu eich tocynnau

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

Hafan/Ymweld â ni /Archebu tocynnau

Sut mae'r broses yn gweithio

Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw i wneud yn siŵr y cewch chi fynediad i’r parc ar y dyddiad o’ch dewis. I osgoi gorfod ciwio, ar ôl cyrraedd byddwch chi’n gallu mynd i mewn i’r parc yn syth gyda’r tocyn ar eich ffôn neu wedi’i argraffu. 

 


Wrth i chi grwydro, bydd un o’n wardeiniaid yn eich stopio i ddweud helo ac i gymryd cip ar eich tocynnau.

 


Prisiau: oedolion £6, plant £4, pensiynwyr £5. Mae tocyn dydd i’r teulu’n costio £16 (2 oedolyn a 2 blentyn). Mae pris eich tocyn yn cynnwys parcio.

Dod yn ffrind i'r parc

Manteision aelodaeth flynyddol:

  • Mynediad diderfyn i’r parc drwy gydol y flwyddyn
  • Dim angen archebu ymlaen llaw ar gyfer dyddiadau penodol
  • Mynediad i’r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r cyhoedd
  • Cyfrannu at adfer y gerddi hanesyddol

Tocyn 12 mis

Gwerth gwych am arian. Gallwch ymweld faint a fynnwch o weithiau.

Tocyn rhodd

Anrheg am flwyddyn gyfan. Yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu.

Bats illustration

Cefnogi

Parc Glynllifon

Mae adfer a chynnal y safle hanesyddol yn waith aruthrol. Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawn gan drigolion lleol, ymwelwyr a busnesau sy’n cyfrannu at weledigaeth y tîm gyda rhoddion untro neu reolaidd. Mae’n ymdrech ar y cyd sy’n dwyn ffrwyth i bawb.

Cynnydd pris o 1af Ebrill

Bydd ein prisiau tocynnau diwrnod, blynyddol a rhodd yn cynyddu o 1af Ebrill 2024. Bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i warchod Parc Glynllifon i bawb fwynhau.

Archebwch eich tocynnau blynyddol a tocynnau rhodd erbyn 31ain Mawrth i guro’r cynnydd pris a mwynhewch fynediad i’r parc am 12 mis.