Ymgollwch ym myd natur wrth i chi droedio’r gerddi eang, darganfod ein hanes cyfoethog, a mwynhau’r caffi, y lle chwarae a’r siopau bach annibynnol ar y safle. Dewch i fwynhau gyda’ch teulu neu wrth fynd â’r ci am dro.
HEDDIW:
01766 771000
A Mae Glynllifon yn lle unigryw. Mae wedi croesawu Tywysog Cymru, wedi helpu i feithrin busnesau lleol, wedi bod yn lleoliad a set ar gyfer sawl rhaglen deledu, wedi datblygu talent a thechnolegau i’r dyfodol, ac wedi rhoi cyfle i bobl o bob oed gysylltu â byd natur.
Bydd ein prisiau tocynnau diwrnod, blynyddol a rhodd yn cynyddu o 1af Ebrill 2024. Bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i warchod Parc Glynllifon i bawb fwynhau.
Archebwch eich tocynnau blynyddol a tocynnau rhodd erbyn 31ain Mawrth i guro’r cynnydd pris a mwynhewch fynediad i’r parc am 12 mis.