Hafan/Y parc/Y tŷ

Y tŷ

Plas mawreddog neo-glasurol a gafodd ei adeiladu yn y 1830au

Tir hamdden i bendefigion

Mae’n adeilad gradd I rhestredig a oedd ar un adeg yn eiddo i’r Arglwydd Newborough. Yma hefyd cynhaliwyd y dathliad ar ôl arwisgiad Tywysog Cymry, sef Brenin Charles III bellach.

Mae’r plas a’i 16 erw o erddi bellach mewn dwylo preifat ac yn rhan o’r tir ehangach ym Mharc Glynllifon. Wrth i chi grwydro’r parc, gallwch fwynhau golygfeydd gwahanol o’r Plas. Ond mae’n debyg mai ein hoff olygfa ni yw o’r ffownten ddŵr wrth i chi fwynhau picnic ar y lawnt sy’n ymestyn o’r ffownten i’r plas ei hun.

Gerddi â statws cadwraeth

Mae’r gerddi a’r coedwigoedd hardd sy’n amgylchynu’r adeilad wedi cael eu dynodi â statws Gerddi Hanesyddol (gradd I) gan Cadw yn ogystal â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddem yn eich annog i gadw eich llygaid yn agored am y llu o goed a phlanhigion prin sy’n tyfu yma, lawer ohonynt dros 150 mlwydd oed, wrth i chi droedio’r 8 milltir o lwybrau. Mae’n brofiad i deimlo plisgyn y coed cochion anferth a mwynhau sŵn yr adar yn canu a sisial y nant ar ei thaith. Allwch chi ddod o hyd i’r anifeiliaid sydd wedi’u cerfio o bren ar eich taith!

Flower illustration

Archwilio ardal

Glynllifon