Ein stori

Hafan/Ein stori

Cartref teuluol y teulu Glynne a Wynn(e), sy'n gallu olrhain eu llinach yn ôl i'r cymeriad chwedlonol Cilmyn Troed Ddu, a ymgartrefodd ar lannau Afon Llifon yn y 9fed ganrif

Mae gan y parc, a gafodd ei greu yn yr 1830au, hanes lliwgar a diddorol. Mae wedi newid dwylo droeon, wedi’i rannu’n ddarnau, wedi mynd â’i ben iddo a bellach wedi cael ei adfer i’w ogoniant llawn. Dyma gipolwg ar ein stori…

Welsh couple illustration

Y tŷ

Mae’n adeilad gradd I rhestredig a oedd ar un adeg yn eiddo i’r Arglwydd Newborough. Yma hefyd cynhaliwyd y dathliad ar ôl arwisgiad Tywysog Cymry, sef Brenin Charles III bellach.

Mae’r Plas a’i 16 erw o erddi mewn dwylo preifat ac yn gorwedd o fewn tir ehangach Parc Glynllifon. Wrth i chi grwydro’r parc, gallwch fwynhau golygfeydd gwahanol o’r Plas. Ond mae’n debyg mai ein hoff olygfa ni yw o’r ffownten ddŵr wrth i chi fwynhau picnic ar y lawnt sy’n ymestyn o’r ffownten i’r plas ei hun.

Y gerddi

Mae’r gerddi a’r coedwigoedd hardd sy’n amgylchynu’r adeilad wedi cael eu dynodi â statws Gerddi Hanesyddol (gradd I) gan Cadw yn ogystal â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddem yn eich annog i gadw eich llygaid yn agored am y llu o goed a phlanhigion prin sy’n tyfu yma, lawer ohonynt dros 150 mlwydd oed, wrth i chi droedio’r 8 milltir o lwybrau. Mae’n brofiad i deimlo plisgyn y coed cochion anferth a mwynhau sŵn yr adar yn canu a sisial y nant ar ei thaith. Allwch chi ddod o hyd i’r anifeiliaid sydd wedi’u cerfio o bren ar eich taith!

Yr injan stêm

Un o’r injans stêm hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd dal yn ei safle gwreiddiol. Dyma injan o safon, sydd wedi’i hadfer yn grefftus gan Fred Dibnah. Gallwch weld yr injan wrth ei gwaith pan fyddwn ni’n ei thanio yn ystod y flwyddyn. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion am hyn neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod pryd bydd yr injan ar waith.

Oeddech chi'n gwybod?
 

Datblygiad y parc

Y gwaith rydym wedi’i gyflawni, a’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud nesaf, fel rhan o’n cynlluniau gwella ac adfer parhaus. Gallwch gefnogi neu ddarllen mwy am ein gwaith drwy roi rhodd i brosiectau penodol sydd o ddiddordeb i chi.

Cefnogi ein gwaith

Dewiswch eich iaith:

Select your language: