Cyfleusterau

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

TREFNWCH EICH TRIP I LYNLLIFON HEDDIW

Hafan/Ymweld â Ni/Cyfleusterau

Popeth sydd ei angen arnoch chi

Yn y parc mae cyfleusterau toiled a newid babanod ar gael, caffi gyda seddi dan do ac yn yr awyr agored, lle chwarae i’r rhai bach, a siopau bwtîg. Wrth i chi grwydro’r gerddi, fe ddewch chi hefyd ar draws digonedd o feinciau picnic a llecynnau gwair i gael picnic. Cofiwch stopio yn yr amffitheatr awyr agored i dynnu llun, neu i roi ryw berfformiad bach!

Caffi'r Gath Ddu

Mae Caffi’r Gath Ddu yn gaffi annibynnol sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda seddi dan do ac yn yr awyr agored. Mae’n agos at y fynedfa, y siopau a’r lle chwarae, ac felly’n lle delfrydol i gael seibiant a diod i dorri syched.

Mae’r caffi’n cynnig bwydydd poeth ac oer, te prynhawn a byrbrydau – bydd rhywbeth at ddant pawb yno. Mae gan y caffi fynediad i gadeiriau olwyn, a chadeiriau uchel i’r rhai bach hefyd.

Siop Adra

Angharad Gwyn sy’n rhedeg siop Adra, a agorwyd yn 2007, ac mae’n gwerthu anrhegion, nwyddau tŷ ac atodion Cymreig.

Mae popeth maen nhw’n ei werthu wedi cael ei ddewis a’i ddethol yn ofalus a’i wneud yng Nghymru, wedi’i ddylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu’n cynnwys geiriau a sloganau Cymraeg – a dim ond eitemau maen nhw wedi syrthio mewn cariad â nhw eu hunain mae Adra yn eu gwerthu! Maen nhw wedi cael eu creu gan artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bach, annibynnol o bob cwr o Gymru i safon uchel, gan fod Adra yn credu ei bod yn bwysig cefnogi cyflenwyr bach, lleol. Mae nifer o nwyddau’n cael eu creu yma yn Adra, er mwyn i chi allu mwynhau eitemau sydd ond ar gael yn Adra.

Mae’r siop ger mynedfa’r parc, ac felly mae’n lle delfrydol i hyrwyddo talentau o Gymru gan roi’r cyfle i chi fynd â rhywbeth arbennig adref gyda chi. Cofiwch alw heibio i ddweud helo!

Wedi anghofio prynu’ch tocyn? Peidiwch â phoeni, gallwch gasglu tocyn yn y siop ar ôl cyrraedd.

Parcio

Mae digonedd o leoedd parcio ar gael wrth y brif fynedfa, sydd wedi cael eu hail-wynebu’n ddiweddar. Mae’r ffi parcio yn cael ei chynnwys ym mhris eich tocyn ar hyn o bryd, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn haws i chi gyrraedd, parcio a chychwyn crwydro.

I gyrraedd y man parcio, gyrrwch drwy’r brif fynedfa a throi i’r chwith. Does gennym ni ddim gorsafoedd gwefru cerbydau trydan ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio ar hynny.

Ardaloedd picnic

Mae Glynllifon a’i lwybrau, lawntiau a choetiroedd eang yn lle delfrydol i gael picnic. Wrth i chi grwydro’r parc fe welwch chi feinciau’n gyson, yn ogystal â llecynnau agored gyda llawer o feinciau picnic.

Gallwch ddewis eistedd wrth ochr nant, o dan y coedydd coch, neu’n edrych dros yr amffitheatr awyr agored. Ewch ag unrhyw sbwriel adref gyda chi.

Lle chwarae

Mae’r lle chwarae yn agos at y fynedfa a gyferbyn â’r caffi. Mae’r lle chwarae mewn lleoliad naturiol bendigedig, ac yn llecyn gwych i adael i’r plant redeg yn rhydd ac i chi gael eich gwynt atoch.

Unedau crefft

Mae nifer o unedau crefft yng nghanol y parc, sydd ar gael i fusnesau lleol eu defnyddio. Mae gennym ni denantiaid sy’n creu ac yn cynnig amrywiaeth o eitemau – lle perffaith i siopa am anrheg i chi’ch hun neu i rywun arbennig.

Gerddi naturiol godidog

Rydym yn falch o’r ffaith bod y coed a’r planhigion yma ym Mharc Glynllifon yn cael help i ffynnu’n naturiol. Mae’n amgylchedd naturiol, ac yn hafan lle gallwch chi fwynhau pethau yn eu gogoniant naturiol. O goedydd coch i redyn ecsotig, mae digonedd o blanhigion i’w gweld.

Cwestiynau Cyffredin am gyfleusterau Glynllifon

Insects illustration

Mae’r parc a’r cyfleusterau i gyd yn hygyrch, ac rydym wedi ailarwynebu nifer o lwybrau’n ddiweddar er mwyn gwneud mwy o’r parc yn hygyrch hefyd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni neu siarad â warden ar ôl cyrraedd.

Mae’r caffi ar agor drwy’r flwyddyn fel arfer, yn unol â’n hamseroedd agor ein hunain. Ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi wneud yn siŵr bod y caffi ar agor, gallwch ffonio’r caffi ar 01286 832691.

Mae’r toiledau’n agos at y brif fynedfa, ac wrth ymyl y caffi.

Rydym yn cynnal digwyddiadau drwy’r flwyddyn – o arddangosiadau injan stêm i ffeiriau Nadolig. Ewch i’n tudalen digwyddiadau, neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Insects illustration