Beth sy mlaen?
Hafan/Ymweld â ni/Beth sy mlaen
Digwyddiadau ym Mharc Glynllifon
Mae’r adeiladau hanesyddol, y mynedfeydd hygyrch a’r gerddi ysblennydd yn golygu bod Parc Glynllifon yn un o’r lleoliadau gorau yng ngogledd Cymru ar gyfer lleoliadau ffilmio a digwyddiadau. Yn ogystal â bod yn lleoliad ffilmio ar gyfer cwmnïau cynhyrchu, rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau lleol i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim gyda’ch tocyn mynediad. Trowch at y cyfryngau cymdeithasol neu ceir rhagor o wybodaeth isod.
Am ddim
YR INJAN STÊM
26, 27 Mai | 21, 28 Gorff | 4, 18 + 26 Awst | 20 Hyd
Un o’r injans stêm hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd dal yn ei safle gwreiddiol, wedi’i hadfer yn grefftus gan Fred Dibnah. Gallwch weld yr injan pan fyddwn ni’n ei thanio.
£1
Gwyl Grefft a Bwyd Glynllifon
16 a 17 Tachwedd
Dewch i fwynhau crefftau ac anrhegion, bwyd a diod wedi’u cynhyrchu’n lleol ynghyd â cherddoriaeth fyw a Groto Siôn Corn yn awyrgylch hudolus Parc Glynllifon.
Hoffech chi gynnal digwyddiad yma?
Cysylltwch â’r Parc ar 01766 771000 neu parcglynllifon@gwynedd.llyw.cymru