Hafan/Y parc/Y coleg

Y coleg

Campws sy’n canolbwyntio ar ddiwydiannau’r tir gyda chyfleusterau preswyl i’r myfyrwyr wedi’i leoli ar ystad Glynllifon.

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Mae campws Coleg Glynllifon yn cynnwys 300 hectar o fferm a choedwigoedd, sy’n cynnig amgylchedd heb ei ail ar gyfer astudio ystod eang o gyrsiau sy’n ymwneud â diwydiannau’r tir. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys Amaethyddiaeth, Gofal Anifeiliaid Bach, Coedwigaeth, Peirianneg Amaethyddol, a Rheolaeth Cefn Gwlad.

Mae’r bloc addysgu o’r radd flaenaf, gwerth £7.4 miliwn, yn cynnig cyfleusterau modern ar gyfer dysgu mewn ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd TG, yn ogystal â llyfrgell, canolfan adnoddau a darlithfa fawr. Yn ddiweddar, agorwyd canolfan newydd ar gyfer darparu gofal i anifeiliaid gyda chyfleusterau arbenigol sy’n gartref i amrywiol anifeiliaid bach o bob siâp, lliw a llun.

Mae yna hefyd geginau ac ystafelloedd gweithio ar y campws ar gyfer yr Adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Cyfleoedd amrywiol

Gall myfyrwyr yn y coleg gael profiadau ymarferol wrth weithio ar fferm Coleg Glynllifon. Yn ddiweddar, maent wedi buddsoddi mewn sied grwn i wartheg ac uned foch o’r radd flaenaf.

Ar y fferm, mae yna:
  • Buches odro Groesfrid sy’n lloia yn yr hydref
  • Buches Eidion Stabiliser a Gwartheg Duon sy’n lloia yn y gwanwyn
  • Diadell lawr gwlad yn cynnwys 500 dafad Llŷn
  • Diadell o 50 o ddefaid cyfandirol i gynhyrchu ŵyn cigydd
  • Cenfaint o 50 mochyn Cymreig a hychod croes

Yn ogystal â fferm go-iawn, mae yna ganolfan astudiaethau anifeiliaid, canolfan beirianneg a melin goed ar y campws.

Mae Coleg Glynllifon yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i bobl o bob cefndir ac mae’n lle cefnogol a chyfeillgar i astudio. Mae hyn yn cynnwys ystod o raglenni prentisiaeth ac amrywiol gyrsiau byr i gefnogi unigolion sy’n gweithio yn y sector Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i ennill cymwysterau.

Archwilio ardal

Glynllifon