Archebu ystafelloedd
Yn ogystal â’n hunedau crefft, mae gennym hefyd ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi. Mae’r ystafell yn 4 metr x 5 metr gyda lle i eistedd hyd at 20 o bobl a bwrdd gwyn. Mae hwn yn lle gwych ar gyfer cyfarfodydd preifat, gweithdai a digwyddiadau bach. Gallwch archebu’r ystafell fesul awr, fesul hanner diwrnod neu am ddiwrnod cyfan.
Lleoliad ffilmio
Mae Parc Glynllifon yn lleoliad ffilmio perffaith gyda’r hen adeiladau cerrig hanesyddol, y plasty, yn ogystal â’r gerddi, y coedwigoedd a’r nentydd ysblennydd. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu’n rheolaidd, gan sicrhau caniatâd ffilmio iddyn nhw allu manteisio i’r eithaf ar y lleoliad anhygoel hwn yng ngogledd Cymru. Mae croeso i chi holi mwy am ganiatâd ffilmio yma.
Prisiau
Bydd rhaid i bob cynhyrchiad sy’n gwneud cais i ffilmio yng Nglynllifon dalu ffi weinyddol o £25, a bydd hynny’n sicrhau na fydd neb arall yn gallu gwneud cais ar y diwrnod ffilmio penodol hwnnw. Ni ellir cael ad-daliad ar y ffi. Codir y ffi wrth archebu ar-lein. Ar ôl i ni adolygu’r cais a phenderfynu a yw’n bosib, byddwch chi’n cael trwydded ffilmio a byddwn yn anfon anfoneb am weddill y ffi sy’n daladwy am y drwydded.
Rhaid talu cyn dechrau ffilmio. Codir taliadau gweinyddol ychwanegol ar gynyrchiadau mawr neu gynyrchiadau sy’n cymryd llawer o amser. Byddwn yn trafod hyn yn unigol gydag ymgeiswyr.
Bydd gweddill y ffi drwydded sy’n daladwy ar ôl cymeradwyo’r cais yn seiliedig ar faint y criw fesul diwrnod. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:
Fee | Crew Size |
---|---|
£0 | Charity, students (at discretion) |
£41 | Handheld camera: up to 5 people |
£107 | Small crew: up to 10 people, camera and tripod only |
£200 | Medium crew: 11-19 people |
£305 | Large crew: 20-49 people |
£371 | Very large crew: 50+ people |
Os bydd angen, codir ffioedd gweinyddol ychwanegol ar gynyrchiadau mawr. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:
Fee | Administration Area |
---|---|
£150 ph | Incurred once administration runs over one hour (The first hour is covered by the application Administration fee) |
£150 ph | Location site meetings |
Dim ond os bydd rhaid canslo’r ffilmio ar gais Parc Glynllifon y rhoddir ad-daliad am y ffioedd gweinyddol.