Rhoi rhodd

Hafan/Cefnogi/Rhoi rhodd

Bydd eich rhodd yn ein helpu i gadw'r Gerddi'n edrych yn odidog am flynyddoedd i ddod

Gwneud y parc yn fwy hygyrch gyda llwybrau a llefydd i eistedd, adfer nodweddion hanesyddol ac unigryw fel yr injan stêm, neu gynnal a chadw’r gerddi hyfryd am flynyddoedd i ddod. Gallwch ddewis pa brosiectau yr hoffech chi gyfrannu atynt neu gallwch roi rhodd i’r parc a gallwn ni neilltuo eich cyfraniad ar draws sawl prosiect ar eich rhan. Gallwch roi rhodd mewn chwinciad!

NEU GALLWCH ROI RHODD DRWY DROSGLWYDDIAD BANC ELECTRONIG:

Cod didoli: 40-410-40
Rhif y cyfrif: 40404040
Enw’r Cyfrif: Glynllifon


Cysylltwch â ni ar parcglynllifon@gwynedd.llyw.cymru os hoffech chi gyfrannu arian drwy siec.

Flower illustration

Ein prosiectau

Mae’r parc wedi mynd â’i ben iddo dros y blynyddoedd. Ein amcan yw dychwelyd y lle i’w lawn ogoniant blaenorol, fel ei fod mor hygyrch â phosib ac er mwyn i bawb ei fwynhau. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn ni fynd i’r afael â mwy o brosiectau ar yr un pryd er mwyn gorffen y gwaith yn gynt.

Cwestiynau Cyffredin am roi rhodd

Insects illustration

Dim ond ar y prosiect rydych chi wedi dewis ei gefnogi y bydd eich rhodd yn cael ei gwario. Bydd eich rhodd yn cael ei defnyddio ar gyfer pethau fel offer, deunyddiau, argraffu hysbysfyrddau newydd ac ati. Os byddwch chi’n rhoi rhodd i’r parc yn gyffredinol, byddwn ni’n rhannu’ch rhodd rhwng nifer o brosiectau.

Gan fod pob rhodd yn mynd tuag at y gwaith adfer, allwn ni ddim rhoi ad-daliad yn ddiweddarach.

Pan fyddwch chi’n rhoi rhodd, byddwch chi’n cael eich cofrestru ar gyfer cylchlythyr e-bost. Mae hynny’n sicrhau y gallwn ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newyddion a datblygiadau’r prosiect. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i’r parc i weld y prosiect pan fydd wedi’i gwblhau.

Y swm lleiaf y gallwch chi ei roi yw £5, ond does dim uchafswm. Gallwch hefyd roi rhodd mor aml ag ydych chi’n dymuno, diolch i’n proses gyflym a rhwydd.

Insects illustration