Hafan/Ymweld â ni/Lleoliadau ac ystafelloedd
Ffilmio ac Ystafelloedd
Mae ein lleoliadau a’n hadeiladau unigryw yn cynnig cefnlen anhygoel i’ch digwyddiadau pwysig.
Archebu ystafelloedd
Yn ogystal â’n hunedau crefft, mae gennym hefyd ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi. Mae’r ystafell yn 4 metr x 5 metr gyda lle i eistedd hyd at 20 o bobl a bwrdd gwyn. Mae hwn yn lle gwych ar gyfer cyfarfodydd preifat, gweithdai a digwyddiadau bach. Gallwch archebu’r ystafell fesul awr, fesul hanner diwrnod neu am ddiwrnod cyfan.
Sylwer: nid yw archebion ystafell ar gael ar hyn o bryd.
Lleoliad ffilmio
Mae Parc Glynllifon yn lleoliad ffilmio perffaith gyda’r hen adeiladau cerrig hanesyddol, y plasty, yn ogystal â’r gerddi, y coedwigoedd a’r nentydd ysblennydd. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu’n rheolaidd, gan sicrhau caniatâd ffilmio iddyn nhw allu manteisio i’r eithaf ar y lleoliad anhygoel hwn yng ngogledd Cymru. Mae croeso i chi holi mwy am ganiatâd ffilmio yma.
Prisiau
Bydd rhaid i bob cynhyrchiad sy’n gwneud cais i ffilmio yng Nglynllifon dalu ffi weinyddol o £25, a bydd hynny’n sicrhau na fydd neb arall yn gallu gwneud cais ar y diwrnod ffilmio penodol hwnnw. Ni ellir cael ad-daliad ar y ffi. Codir y ffi wrth archebu ar-lein. Ar ôl i ni adolygu’r cais a phenderfynu a yw’n bosib, byddwch chi’n cael trwydded ffilmio a byddwn yn anfon anfoneb am weddill y ffi sy’n daladwy am y drwydded.
Rhaid talu cyn dechrau ffilmio. Codir taliadau gweinyddol ychwanegol ar gynyrchiadau mawr neu gynyrchiadau sy’n cymryd llawer o amser. Byddwn yn trafod hyn yn unigol gydag ymgeiswyr.
Bydd gweddill y ffi drwydded sy’n daladwy ar ôl cymeradwyo’r cais yn seiliedig ar faint y criw fesul diwrnod. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:
| Ffi | Maint y criw |
|---|---|
| £35 | Elusennau, myfyrwyr (yn ôl disgresiwn) |
| £70 | Camera llaw: hyd at 5 person |
| £140 | Criw bach: hyd at 10 person, dim ond camera a thripod |
| £239 | Criw canolig: 11–19 o bobl |
| £350 | Criw mawr: 20–49 o bobl |
| £420 | Criw mawr iawn: 50+ o bobl |
Os bydd angen, codir ffioedd gweinyddol ychwanegol ar gynyrchiadau mawr. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:
| Ffi | Ardal Weinyddol |
|---|---|
| £150 ph | Incurred once administration runs over one hour (The first hour is covered by the application Administration fee) |
| £150 ph | Cyfarfodydd ar y safle |
Dim ond os bydd rhaid canslo’r ffilmio ar gais Parc Glynllifon y rhoddir ad-daliad am y ffioedd gweinyddol.




